Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 10.27 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) William Graham AC Mike Hedges AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Sandy Mewies AC Jocelyn Davies AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Matthew Mortlock, Swyddfa Archwilio Cymru Jeremy Morgan, Swyddfa Archwilio Cymru Nick Selwyn, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Michael Kay (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Clerc) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Ffred Jones.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Jocelyn Davies a oedd yn dirprwyo ar ran Alun Ffred Jones.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3 Cyflogau Uwch Reolwyr - Trafod ymateb Llywodraeth Cymru
3.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar Gyflogau Uwch Reolwyr, ynghyd â chyngor yr Archwilydd Cyffredinol.
3.2 Gofynnwyd i ymgynghorydd cyfreithiol y Pwyllgor ddarparu nodyn briffio ar y Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio.
3.3 Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at CLlLC i ofyn i'r gymdeithas ddosbarthu'r adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru i arweinwyr awdurdodau lleol.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Sesiwn Friffio gyda Swyddfa Archwilio Cymru ar Reoli Effaith Newidiadau Diwygio Lles
5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar reoli effaith newidiadau diwygio lles ar denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru, a nododd bod y Cadeirydd wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad.
5.2 Datganodd Julie Morgan fuddiant am fod ei merch yn cael ei chyflogi gan Shelter Cymru.
6 Cwmpas yr Ymchwiliad i Draffyrdd a Chefnffyrdd: Gwerth am Arian
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gwmpas yr ymchwiliad i draffyrdd a chefnffyrdd: gwerth am arian, a chytunodd i ysgrifennu at randdeiliaid i ofyn am eu barn.
7 Craffu ar Gyfrifon 2013-14: Trafod y materion allweddol
7.1 Trafododd y Pwyllgor faterion allweddol yr adroddiad Craffu ar Gyfrifon 2013-14.
7.2 Datganodd Sandy Mewies fuddiant am ei bod yn aelod o Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac esgusododd ei hun o'r trafodaethau ar gyfrifon y Comisiwn.